Beth yw Bedyddwyr?

Y mae Bedyddwyr Cymru yn perthyn i enwad a ledaenodd dros y byd.

Nod amgen yr enwad yw ein bod yn bedyddio trwy drochiad:

– y sawl sydd wedi credu’r Efengyl a
– wedi gwneud proffes gyhoeddus o’i ffydd.

Golyga hyn na fedyddiwn ni yng Nghymru ond ‘oedolion’ – pobl yn eu harddegau a phobl hŷn, fel arfer – er bod ‘Bedyddwyr y De’ yng Ngogledd America yn credu fod plant 7-8 oed yn ddigon aeddfed i wneud proffes o’u ffydd.

Sefydlwyd yr enwad gan John Smyth a Thomas Helwys, Saeson alltud yn yr Iseldiroedd ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Roeddent wedi ffoi yno am eu bod yn perthyn i’r garfan o Biwritaniaid oedd am ymneilltuo o Eglwys Loegr a phuro’r Eglwys o’r hyn a ystyrient yn olion Pabyddiaeth. Oddi wrth y Menoniaid ar y Cyfandir y dysgwyd am fedydd troch. Dychwelodd Thomas Helwys i Lundain yn 1611 a sefydlu’r eglwys gyntaf ar dir Lloegr yn Spitalfield.

Cyrhaeddodd y Bedyddwyr Ganolbarth Cymru erbyn canol y 1640au, a sefydlwyd eglwysi ar draws De Cymru yn y cyfnod Cromwelaidd. Cynyddodd yr enwad yn raddol dros y blynyddoedd cynnar, gyda chynnydd sylweddol yn dilyn yr amrywiol ddiwygiadau a ddylanwadodd ar Gymru.

Corffolwyd Eglwys y Tabernacl yng Nghaerdydd yn 1822 – er bod eglwys Saesneg gan y Bedyddwyr yn y dref dros bymtheg mlynedd yn gynt. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlwyd amryw o eglwysi bedyddiedig Cymraeg eraill hwnt ac yma yn y dref, ond erbyn heddiw y mae pob un ohonynt naill ai wedi troi yn eglwysi Saesneg, neu wedi cau. Tabernacl, felly, yw unig Eglwys Gymraeg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd, er bod cymaint â dwy ar hugain o eglwysi Saesneg gan yr enwad yn y brifddinas.

Esboniad gan y Parchg D. Hugh Matthews, Gweinidog Anrhydeddus

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>